Mae CASCADE yn falch iawn o gyhoeddi ei bod wedi sicrhau tair cymrodoriaeth ymchwil gyffrous.

Gadael uned cyfeirio disgyblion: Edrych ar gyfnodau pontio a chyrchfannau ôl-16 pobl ifanc â phrofiad o ofal ledled CymruPhil Smith
Sut y gallwn ni wella profiadau a chanlyniadau plant awtistig mewn gofal? Astudiaeth dulliau cymysg o anghenion, gwasanaethau ac arferion daSarah Thompson
Cysylltu data arolygon a data gweinyddol i wella’r ddealltwriaeth o fathau o ymddygiad peryglus a’r ffactorau amddiffyn posibl o ran plant sy’n derbyn gofal cymdeithasol: Astudiaeth ddichonoldebDr Helen Hodges

Mae’r prosiectau ymchwil dan sylw yn rhan o gyfres o wobrau a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ystod 2020-21, ac sydd rhyngddynt gyfwerth â bron £6.5m. 

Mae’r cynlluniau hyn yn cynnig gwahanol lefelau cymorth er mwyn ymateb i amrywiaeth o ofynion ymchwil, o gefnogi unigolion talentog i fod yn ymchwilwyr annibynnol i ariannu prosiectau ymchwil ansawdd uchel sydd yn berthnasol i anghenion iechyd a llesiant ledled Cymru. 

Dyma eiriau Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Fel bob amser, roedd safon y ceisiadau yn uchel iawn eleni. Cawsom ein plesio gyda’r ystod o feysydd y mae’r gwobrau hyn yn eu cwmpasu ac sydd yn cynnwys archwilio i effaith pandemig COFID-19 mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau.  Mae buddsoddi mewn ymchwil ac yn ein hymchwilwyr ni ein hunain yn hanfodol i’n hamcanion ni er mwyn hyrwyddo iechyd a ffyniant pobl yng Nghymru.  

DIWEDD 

Nodyn i olygyddion: 

Ynghylch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yw cangen gweithredu a brand allanol Adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Mae  Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r GIG, prifysgolion, llywodraeth leol, arianwyr ymchwil eraill, cleifion a’r cyhoedd er mwyn ariannu, cefnogi a chynyddu ymchwil sydd yn gallu trawsnewid bywydau tra hefyd yn hyrwyddo tŵf economaidd a datblygiadau ym maes gwyddoniaeth. 

Am ragor o wybodaeth, cysyllwch â’r tïm cyfathrebu yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:: healthandcareresearch@wales.nhs.uk