Mae CASCADE wedi ymrwymo i gynnwys y rhai sydd â phrofiad byw yn ei ymchwil. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn ehangu ein gwaith o gynnwys y cyhoedd yn sylweddol, un o nodau allweddol cyllid seilwaith diweddar Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Yn ogystal â’n grŵp cynghori o’r radd flaenaf ar gyfer ymchwil pobl ifanc â phrofiad o ofal sef (CASCADE Voices ), rydym bellach yn gweithio gyda grŵp o rieni sydd â phrofiad o ofal cymdeithasol plant.  

Mae datblygu cysylltiadau newydd a chychwyn y rhwydwaith newydd hwn yn ystod pandemig COVID-19 wedi bod yn heriol ond mae hefyd wedi darparu digon o gyfleoedd newydd. Roedd yn anodd peidio â gallu cwrdd wyneb yn wyneb, yn enwedig o ystyried y pwysau ychwanegol ar wasanaethau. Ar y llaw arall, gan fod cymaint o bobl bellach wedi dod i arfer â chyfarfodydd ar-lein, roeddem yn gallu cwrdd â rhieni ledled Cymru na fyddai o bosib wedi cael yr amser i deithio i Gaerdydd fel arall. 

Ym mis Rhagfyr 2020, fe wnaeth CASCADE gynnal y Grŵp Cyngor Ymchwil i Rieni am y tro cyntaf. Rydyn ni’n teimlo’n ffodus iawn i gael grŵp o rieni mor ysbrydoledig ac ymroddedig i wneud hyn yn bosibl. 

Ein nod yw datblygu rhwydwaith o rieni gydag ystod o brofiadau o ofal cymdeithasol plant. Byddwn yn cynnig hyfforddiant mewn dulliau ymchwil a chydnabyddiaeth ariannol i rieni ddatblygu, cefnogi a chynnal ein hymchwil. Bydd y modd rydym yn gwneud hyn yn parhau i esblygu ond am y tro, rydym mor falch o allu dechrau cynnwys y lleisiau hyn yn ein gwaith. 

Yn olaf, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod wyneb yn wyneb ar ryw adeg yn y dyfodol!

Am fwy o wybodaeth neu i gymryd rhan cysylltwch â CASCADE@caerdydd.ac.uk