5 prosiect ymchwil newydd wedi’u dyfarnu i ymchwilwyr CASCADE, yn ymwneud ag ystod o bynciau.
Gwerthusiad o Wasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol Action for Children
Mae rhaglen arloesol sy’n ceisio tywys pobl ifanc i ffwrdd o fywyd o droseddau cyfundrefnol difrifol wedi’i dyfarnu i Dr Nina Maxwell yn CASCADE, Prifysgol Caerdydd gan Action for Children. Mae’r prosiect hwn yn ceisio edrych ar sut mae Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar i Atal Troseddau Cyfundrefnol Difrifol yn cael ei weithredu a’i gyflwyno, yn ogystal â’i effaith.
Mae’r prosiect yn cynnig gwasanaeth pwrpasol, gan nodi’r sbardunau unigol a’r rhesymau pam fod pobl ifanc yn troseddu gyda’r nod o rymuso pobl ifanc i wneud newid cadarnhaol.
Cefnogir hyn gyda thair elfen graidd o ddarpariaeth gwasanaeth.
1. Gwaith achos dwys fel cefnogaeth un i un, mentora cyfoedion a dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd dull amlasiantaethol yn cael ei ddatblygu sydd â’r nod o sicrhau newid ar lefel system drwy rannu gwybodaeth, meithrin gallu a datblygu ymatebion effeithiol i bobl ifanc sy’n ymwneud â throseddau difrifol, neu sydd ar fin gwneud hynny.
2. Ymyrraeth ac atal cynnar yn y gymuned gyda rhwydwaith ehangach y person ifanc i atal a/neu symud brodyr a chwiorydd, cyfoedion a chymdeithion i ffwrdd o droseddu.
3. Dull teulu cyfan o weithio gydag aelodau o’r teulu a’u grymuso i gefnogi taith y person ifanc at lwybrau mwy cadarnhaol.
Dechreuodd y gwerthusiad dwy flynedd o hyd ar 1 Chwefror 2021.
Gwreiddio dull gweithredu adferol mewn gwasanaeth arloesol sy’n darparu cefnogaeth ddwys i blant a theuluoedd a chanolfan gymunedol wedi’i chyd-gynhyrchu
Mae rhaglen arloesol gyffrous sy’n ceisio ymgorffori dull adferol mewn gwasanaeth arloesol sy’n darparu cefnogaeth ddwys i blant a theuluoedd a chanolfan gymunedol wedi’i chyd-gynhyrchu wedi’i dyfarnu i Dr Annie Williams gan Gronfa Loteri ESRC / CUBE.
Gwasanaeth amlasiantaeth cymunedol yw’r CUBE sy’n darparu cefnogaeth i deuluoedd yn ardal un awdurdod lleol yng Nghymru Mae CUBE yn darparu gwasanaeth cefnogaeth ddwys sydd wedi’i gyd-gynhyrchu ar sail tystiolaeth i deuluoedd yn y gymuned y mae’n ei gwasanaethu ac ar ei chyfer.
Cyflawnir nodau ac amcanion y prosiect mewn tair ffordd, sef trwy:
- Drafodaethau wedi’u cynllunio a rhai ad hoc gydag aelodau staff a grwpiau sy’n darparu gwasanaethau CUBE
- Trafodaethau wedi’u cynllunio a rhai ad hoc gydag ystod o gleientiaid o’r gymuned gyda ffocws ar brofiadau a safbwyntiau am gefnogaeth CUBE.
- Sylwadau am weithrediad CUBE a chyfranogiad yng ngweithgareddau a thasgau’r ganolfan. Os nad yw hyn yn bosibl oherwydd COVID a pholisi CUBE, bydd ymchwilwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau CUBE yn rhithwir
Cefnogi rhieni i chwarae rhan ystyrlon wrth wneud penderfyniadau: Gwerthusiad o brosiect eiriolaeth rhieni Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) Cymru
Mae Dr Clive Diaz yn cychwyn ar raglen ymchwil gyffrous i werthuso gwasanaethau eiriolaeth ar draws Gwent. Yn 2020, dyfarnwyd cyllid i’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth ar draws Gwent. Bydd y prosiect hwn yn rhoi dealltwriaeth glir inni o sut mae’r Rhaglen Eiriolaeth Rhieni (PAP) yn cefnogi rhieni a theuluoedd ledled Gwent a sut mae’n cael ei gweithredu mewn gwahanol awdurdodau lleol.
Cefnogi Rhieni mewn gofal ac wrth ei adael: #NegeseuoniRieniCorfforaethol
Dyfarnwyd grant ymchwil i Dr Louise Roberts gan ESRC ar gyfer ei gwaith Cefnogi Rhieni mewn Gofal ac sy’n Gadael Gofal: #MessagestoCorporateParents
Nodau’r prosiect hwn yw herio stigma, gwahaniaethu a deilliannau gwael i rieni ifanc mewn gofal ac yn gadael gofal. Bydd ymchwilwyr yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol i ystyried a hyrwyddo arfer da i rieni mewn gofal ac yn gadael gofal.
Dyfodol Gofalwyr Di-dâl yng Nghymru
Mae gofalwyr di-dâl yn darparu cefnogaeth a gofal hanfodol i aelodau teulu neu ffrindiau sy’n sâl neu’n anabl ac yn aml cyfeirir atynt fel ‘byddin gudd’ o staff gofal sy’n hanfodol i weithrediad gwasanaethau cyhoeddus. Mae Dr Dan Burrows a Dr Jen Lyttleton-Smith wedi derbyn grant gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth i’r astudiaeth geisio asesu effaith gymdeithasol, economaidd, emosiynol a pherthynol y pandemig COVID-19 ar ofalwyr di-dâl ac ystyried sut gall gofalwyr o’r fath gael eu cefnogi’n well trwy gydol amgylchiadau’r pandemig ac i’r dyfodol yng Nghymru.
Bydd y canfyddiadau’n rhan o ystod o astudiaethau a fydd yn llywio’r strategaeth ar gyfer cefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru, sydd heb eu datblygu’n ddigonol ar hyn o bryd.