Ym mis Mai, ymwelodd CASCADE â’r Eidal ar gyfer Cyfnewid Gwybodaeth, a gynhaliwyd gan gydweithwyr o SOS Children’s Villages Italy, gyda nodau allweddol i rannu ymagweddau at gyfranogiad pobl ifanc â phrofiad o ofal mewn polisi, ymarfer a datblygu gwasanaethau.

Ym mis Mai, aeth Louise Roberts a Rachael Vaughan, aelodau o staff CASCADE i’r Eidal i gyfnewid gwybodaeth dan ofal SOS Children’s Villages Italy. Cafodd y tîm gyfle i rannu agweddau o gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu polisïau, ymarfer a gwasanaethau.

Roedd yr ymweliad yn cynnwys cyfres o gyfarfodydd yn Bologna, Fflorens a Rhufain gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys llunwyr polisïau, sefydliadau’r trydydd sector, ac yn bwysicaf oll, pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Roedden ni’n ffodus i fod yng nghwmni dau o bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal o Voices from Care Cymru, yn ogystal â Deborah Jones, Prif Swyddog Gweithredol y sefydliad. Yn ystod yr ymweliad, buom yn rhannu gwybodaeth am systemau lles plant yng Nghymru ac yn yr Eidal, gan ganolbwyntio’n benodol ar adael gofal. Buom yn rhannu manylion o gynlluniau peilot mewn cyd-destunau gwahanol, wedi’u cynllunio i wella profiadau pobl ifanc wrth dyfu’n oedolion a lleihau anfantais. Buom yn trafod agweddau ar gynnwys a chyd-gynhyrchu, gan gynnwys sut mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cymryd rhan yn y gwaith o lunio gwasanaethau, llywio polisïau a chyfrannu at ymchwil.

Roedd yr ymweliad cyfnewid hwn yn cynnig lle gwerthfawr i ddysgu ar y cyd, myfyrio a datblygu perthnasoedd mewn cyd-destunau rhyngwladol. I bawb a gymerodd ran, roedd y profiad wedi rhoi rhywbeth i bawb feddwl amdano ac wedi tynnu sylw at enghreifftiau o arfer da fydd efallai’n helpu i lywio polisïau, ymarfer ac ymchwil yng Nghymru ac yn yr Eidal. Roedd hefyd wedi cryfhau partneriaethau rhyngwladol ac wedi atgyfnerthu pwysigrwydd sicrhau bod pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cymryd rhan yn ystyrlon mewn penderfyniadau sy’n cael effaith ar eu bywydau.

Dyma a ddywedodd dau o’r bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a deithiodd gyda ni: 

“Roedd yr holl daith yn gyfle arbennig i gwrdd â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol o wahanol gefndiroedd, ond hefyd i ddysgu am wlad brydferth ar yr un pryd.” – Mel

“Rwy wedi gwneud ffrindiau gwych ar y daith hon ac mae gen i ddealltwriaeth well o’r system ofal yn yr Eidal ac hefyd yn fy ngwlad fy hun. Rwy’n awyddus dros ben i frwydro dros newid er mwyn mynd i’r afael â methiannau yn y system ofal, nid yn unig ar ran y bobl sydd yn rhan ohoni neu’n ei gadael hi, ond i bobl fel fi sydd wedi cael eu mabwysiadu ac yn cael eu anghofio gan yr awdurdod lleol unwaith i’r gorchymyn gael ei gymeradwyo.” – James

– Rachael Vaughan