Mae Diogelu Cymhleth Cymru yn adnodd a gydgynhyrchwyd yn seiliedig ar ganfyddiadau’r prosiect ymchwil: Llinellau sirol: ymateb cydlynol cymunedau Cymru i gamfanteisio’n droseddol ar blant ac mewn cydweithrediad â phobl ifanc, rhieni ac ymarferwyr sydd â phrofiad uniongyrchol.

Ei nod yw darparu gwybodaeth am beth yw camfanteisio’n droseddol ar blant, pa arwyddion i chwilio amdanynt a sut y gall rhieni gael mynediad at gymorth a chefnogaeth. Mae Diogelu Cymhleth Cymru hefyd yn rhoi trosolwg i rieni o’r polisi perthnasol ar gyfer addysg, tai, yr heddlu a gwasanaethau plant a beth i’w wneud os aiff eich plentyn ar goll. Mae pob adran yn gorffen gyda chanllawiau ymarferol yn seiliedig ar yr hyn a ddywedodd pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol wrthym.
Mae canfyddiadau o’r prosiect ymchwil hefyd wedi arwain at ddatblygu pecyn cymorth camfanteisio’n droseddol ar blant ac offeryn asesu (ar gael ar gais). Nod yr offer hyn yw gwella ymatebion ymarferwyr a chymunedau i gamfanteisio’n droseddol ar blant.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am gopi o’r pecyn cymorth camfanteisio’n droseddol ar blant a’r offeryn asesu, cysylltwch â Dr Nina Maxwell drwy ebost yn MaxwellN2@Caerdydd.ac.uk neu dros y ffôn ar 029 2251 0944.