Mae rhoi plant sy’n ‘derbyn gofal’ gan y wladwriaeth mewn lleoliad gofal preswyl yn aml yn cael ei ddisgrifio fel opsiwn ‘dewis olaf’, er ei fod yn ddewis cadarnhaol a phriodol ar gyfer rhai pobl ifanc.  Ledled y DU, mae 16% o blant sy’n derbyn gofal yn Lloegr yn byw mewn lleoliadau preswyl, 10% yw’r ffigwr yn yr Alban a 7% yng Nghymru (Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, 2022). Yn hanesyddol, nid yw’r gweithlu sy’n gweithio ym maes gofal preswyl i blant yn cael ei werthfawrogi. Fe’i ystyrir yn weithlu sy’n gwneud y gwaith dros dro, ac yn weithlu sy’n meddu ar lefel isel o sgiliau (Yr Adran Addysg, 2021), a hynny er gwaetha’r ffaith bod y rôl yn gofyn am weithio gyda phlant sydd yn aml wedi profi trawma a heriau sylweddol. 

Mae cartrefi preswyl i blant a’r bobl sy’n gweithio ynddynt wedi bod yn destun llawer o sylwebaeth negyddol ers blynyddoedd lawer.  Mae enghreifftiau proffil uchel wedi edrych ar ystod o bryderon, megis achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn mannau gofal preswyl yng Ngogledd Cymru ac mewn mannau eraill, yn fwy diweddar beirniadwyd effaith marchnadeiddio gofal a’r elw y mae darparwyr preifat yn ei wneud, ac mae ffocws wedi ei roi hefyd ar annigonolrwydd cartrefi plant yn Rotherham a Rochdale a’r ffordd y maent wedi methu ag amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol.

Un ymateb i’r beirniadaethau hyn ac eraill fu cyflwyno’r angen gorfodol i gofrestru’r gweithlu gyda’r bwriad o gynyddu hyder y cyhoedd mewn gofal preswyl. Bellach, dyma’r drefn yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a’r Alban. Yn ei adroddiad interim, argymhellodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) y dylai’r un peth ddigwydd yn Lloegr, gan ddechrau gyda rheolwyr cartrefi plant, ond gan ymestyn i gynnwys pob aelod o staff cartrefi preswyl plant (Independent Inquiry into Child Sexual Abuse et al., 2018).  Adleisiwyd yr alwad hon am gofrestru yn yr Adolygiad Annibynnol o Ofal Cymdeithasol Plant a gyhoeddwyd yn ddiweddar (MacAlister, 2022). Argymhellodd yr adolygiad y dylai aelodau’r gweithlu cartrefi preswyl i blant gael eu cofrestru gan reoleiddiwr annibynnol, gan ddechrau eto gyda rheolwyr cartrefi plant ac y dylai hyn gynnwys pob aelod o staff cartrefi preswyl plant erbyn 2025.  Ymddengys bod galwadau o’r fath yn seiliedig i raddau helaeth ar syniadau y bydd rheoleiddio yn gwella proffesiynoldeb y gweithlu cartrefi preswyl i blant, yn cynyddu hyder y cyhoedd yn ei sgiliau, ac yn cefnogi recriwtio mwy diogel a gwell gofal i blant.

Ond nid yw pawb yn rhannu’r farn bod cofrestru’n angenrheidiol.  Ni nododd yr adolygiad o ofal preswyl yn Lloegr, a gynhaliodd Syr Martin Narey yn 2016, bod cofrestru staff yn fater penodol i’w archwilio. Argymhellodd yn lle hynny y dylid darparu canllawiau i gyflogwyr ar sut y gallant yng ngeiriau’r awdur “can screen out those whose behaviour might fall short” er mwyn gwella gofal ar gyfer plant, a’r ffordd mae plant yn cael eu hamddiffyn (Narey, 2016, t.61), yn hytrach na gweithredu system gofrestru genedlaethol.

Mae hyn yn awgrymu bod yr angen am reoleiddio a chofrestru’r gweithlu, ac effeithiolrwydd hyn, yn parhau i fod yn destun trafod.  Wrth wraidd y dadleuon ynglŷn â chyfundrefnau rheoleiddio sy’n cynnwys cofrestru staff, mae cwestiwn sylfaenol – beth mae pobl â phrofiad o ofal, teuluoedd, comisiynwyr gwasanaethau, llunwyr polisïau, darparwyr gofal preswyl, gweithwyr ym maes gofal preswyl i blant, ac eraill yn credu yw pwrpas cofrestru?  Yn ei hanfod, a yw cofrestru gorfodol yn ymwneud yn bennaf â chael gwared ar yr ambell unigolyn na ddylent ar unrhyw gyfri fod yn gwneud y swydd, ac wrth wneud hynny a oes rhagdybiaeth ynghlwm bod cofrestru’n ymwneud yn bennaf â diogelu’r cyhoedd a rhoi hyder iddynt yn y gwasanaethau a gynigir?  Neu a yw nodau ehangach o ran codi safonau ymarfer yn gyffredinol a phroffesiynoli’r gweithlu yn sail i’r galw am gofrestru?  A yw rhai’n credu bod cofrestru yn ceisio cyflawni’r ddeubeth hyn, gan gydnabod nad ydynt yn annibynnol ar ei gilydd? Os credir mai cyflawni’r ddeubeth yw’r nod, a yw’n realistig disgwyl y gellir gwneud hynny drwy gofrestru, neu a ddylem allu dibynnu ar systemau ehangach o reoleiddio, arolygu, a mesurau eraill?  Pa safbwynt bynnag a fabwysiadwn yn fan cychwyn, sut ydym ni’n credu y gellir cyflawni’r nodau hyn?

Gan droi at y prosesau y mae cyfundrefnau cofrestru yn eu rhoi ar waith, megis ceisiadau cofrestru cychwynnol, gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer, a gofynion datblygiad proffesiynol parhaus, a ydynt yn effeithio’n uniongyrchol ar ddiogelu’r cyhoedd, proffesiynoli’r gweithlu yn well, ac yn y pen draw ar ganlyniadau gwell i blant a phobl ifanc. Ymhellach, beth yw profiad a dealltwriaeth y gweithlu o’r pethau hyn a beth yw’r dystiolaeth a ddaw o’r gweithgareddau hyn? 

Mae ymchwilwyr o’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) a’r Ganolfan Treialon Ymchwil, Prifysgol Caerdydd, ynghyd â chydweithwyr o Uned Ymchwil Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol NIHR yng Ngholeg y Brenin Llundain, yn dechrau ar astudiaeth ymchwil dwy flynedd o hyd er mwyn archwilio’r cwestiynau hyn.  Mae’r astudiaeth, a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (NIHR), yn cael ei chynnal yng Nghymru a Lloegr a dechreuodd ar 1 Gorffennaf 2022. 

I gael rhagor o wybodaeth ebostiwch Martin Elliott (ElliottMC1@caerdydd.ac.uk).