Diben y swydd ymchwilydd gwadd sy’n ymarferydd yw cefnogi ymarferydd yn eu datblygiad academaidd a’u helpu i baratoi ar gyfer ceisiadau am gyllid yn y dyfodol – yn enwedig ar gyfer dilyn PhD rhan-amser neu amser llawn neu ymchwil arall a ariennir.

Felly, gwahoddir ymgeiswyr i geisio am statws ymchwilydd gwadd am gyfnod o flwyddyn, gan ddechrau ym mis Hydref 2022 yn y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y cyfle hwn yn berthnasol i’r rhai sydd â diddordeb amlwg mewn gwaith cymdeithasol sy’n ymwneud â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Mae’r cysylltiad anrhydeddus hwn â Phrifysgol Caerdydd yn ddi-dâl ond mae swm o £500 ar gael i dalu costau, gan gymryd ei fod yn ymgysylltu’n llawn.

Disgwylir i ymgeiswyr fod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig a chanddynt ddiddordeb brwd mewn ymchwil.

Bydd yr ymchwilydd gwadd yn derbyn goruchwyliaeth rithwir bob pythefnos yn ystod y flwyddyn gan Dr Martin Elliott, rhwng mis Hydref 2022 a mis Mehefin 2023. Bydd yn gysylltiedig â thîm ymchwil CASCADE, sy’n cynnwys ymchwilwyr sydd wedi dod o faes ymarfer. Bydd yn ofynnol i’r ymchwilydd gwadd ymgymryd â gweithgarwch ymchwil a datblygu sgiliau rhwng sesiynau goruchwylio.

Bydd gan yr ymchwilydd gwadd fynediad o bell at gyfnodolion a llyfrau electronig, yn ogystal ag at lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd. Bydd yr ymchwilydd gwadd yn cael ei gefnogi yn ystod y flwyddyn i gynnal adolygiad llenyddiaeth i’w gyhoeddi, ac i nodi cwestiynau ymchwil, dulliau a ffynonellau data posib ar gyfer ymchwil yn y dyfodol. Byddant hefyd yn cael cyfleoedd, os dymunant, i fod yn rhan o brosiectau sy’n mynd rhagddynt eisoes yn CASCADE.

Yn ogystal â chymhwyster gwaith cymdeithasol proffesiynol, bydd gan ymgeiswyr ganlyniadau academaidd rhagorol. Y rheswm am hyn yw y bydd yn cynyddu tebygolrwydd yr ymchwilydd gwadd o lwyddo gyda cheisiadau grant yn y dyfodol.

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus wneud eu trefniadau eu hunain gyda’u cyflogwr o ran amser i ymgymryd â rôl yr ymchwilydd gwadd, boed hynny drwy wyliau astudio, gwyliau blynyddol neu drefniadau eraill.

Lleoliad.

I wneud cais, anfonwch ebost at Dr Martin Elliott (ElliottMC1@caerdydd.ac.uk) gan Gwener 9 Medi. I’ch ebost, atodwch: (i) Llythyr (dim mwy na 400 o eiriau) yn amlinellu pam mae gennych ddiddordeb mewn datblygu’n bellach yn academaidd, eich prif ddiddordebau ymchwil, a’ch dyheadau/cynlluniau tymor hwy; ii) Eich CV, gan nodi eich manylion cyswllt, cymwysterau a graddau, cyflogaeth a’ch dinasyddiaeth. iii) Manylion dau ganolwr proffesiynol, y gallwn gysylltu â hwy os cewch eich dewis ar gyfer cyfweliad.  Cynhelir cyfweliadau’n rhithiwr.

Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod ein gweithwyr cyflogedig i gyd yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd y penodiad hefyd yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.