Mae dau bapur newydd wedi’u cyhoeddi sy’n archwilio’r ymyriadau a gwasanaethau iechyd meddwl a lles ar-lein i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn ystod y pandemig, ac mae i hyn oblygiadau yn ein byd ôl-COVID-19.

Yn ystod pandemig COVID-19, daeth llawer o wasanaethau iechyd meddwl a lles yn wasanaethau ar-lein yn gyflym iawn. Fodd bynnag, go brin y trafodwyd profiadau’r bobl ifanc hynny a’u gofalwyr o’r newid hwn.  

Yn y papurau hyn, mae ymchwilwyr yn trafod eu canfyddiadau yn sgil cyfweliadau â phobl ifanc, gofalwyr maeth ac ymarferwyr, gan archwilio eu profiadau a’u safbwyntiau o ran sut beth oedd cysylltu â gwasanaethau iechyd meddwl ar-lein.

‘I probably wouldn’t want to talk about anything too personal’: A qualitative exploration of how issues of privacy, confidentiality and surveillance in the home impact on access and engagement with online services and spaces for care-experienced young people

Acceptability, feasibility and perceived effectiveness of online and remote mental health and wellbeing interventions during the COVID-19 pandemic: A qualitative study with care-experienced young people, carers and professionals

Mae’r prosiect hwn hefyd wedi’i gyflwyno yn ‘TRIUMPH Fest’ yng Nghaeredin, a dyma yw pwnc ‘Rydyn ni’n siarad yr un iaith’, blog a ysgrifennwyd gan y Cyd-ymchwilydd Brittany.