Mae Dr Martin Elliott, Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil CASCADE wedi ennill gwobr genedlaethol flaenllaw am yr erthygl orauyn y British Journal of Social Work yn 2020.

Dyfernir Gwobr Kay McDougall Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) am ehangder ysgolheictod, soffistigedigrwydd theori, trylwyredd ymchwil, perthnasedd i ymarfer ac apêl ryngwladol.

Mae papur Martin yn edrych ar anghydraddoldebau o ran pa mor debygol y bydd angen gofal ar blant a beth sy’n digwydd i’r anghydraddoldebau hynny yn ystod cyfnod pan mae nifer y plant sy’n mynd i ofal yn cynyddu’n gyflym.  Yr enghraifft a ddefnyddir yn y papur oedd y cyfnod yn syth ar ôl marwolaeth Peter Connelly (Babi P).  Ar gyfartaledd, mae plant yn y cymdogaethau mwyaf difreintiedig yng Nghymru bron 12 gwaith yn fwy tebygol o fod o dan ofal na’u cyfoedion yn y cymdogaethau lleiaf difreintiedig.  Yn sgîl marwolaeth Peter Connelly, roedd y cynnydd cyflym yn nifer y plant sy’n mynd i ofal yn deillio’n anghymesur o’r cymdogaethau mwyaf difreintiedig, gyda chynnydd bach neu ddim cynnydd o’r cymdogaethau lleiaf difreintiedig.

“Fel myfyriwr gwaith cymdeithasol yng nghanol y nawdegau, y British Journal of Social Work (BJSW) oedd un o’r lleoedd cyntaf i mi edrych wrth wneud aseiniadau fy nghwrs.  Rwy’n hynod falch fy mod wedi cyhoeddi fy mhapur cyntaf ar fy mhen fy hun yn y BJSW ac i’r papur hwnnw ennill gwobr BASW Kay McDougall.”  

Darllenwch erthygl arobryn Martin, Child Welfare Inequalities in a Time of Rising Numbers of Children Entering Out-of-Home Care yn llawn.

Cysylltwch ag Martin i gael rhagor o wybodaeth.