Caiff ei gydnabod yn eang fod canlyniadau addysgol ac iechyd plant sy’n derbyn gofal yn waeth na’r boblogaeth yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae niferoedd isel a’r duedd i drin plant sy’n derbyn gofal fel grŵp homogenaidd yn broblematig, nid lleiaf am ei fod yn anwybyddu gwahaniaethau ar sail anghenion ac amgylchiadau unigol. Er mwyn deall y rhesymau am yr anghydraddoldebau hyn, mae angen ymagwedd fwy cynnil a chroestoriadol sy’n canolbwyntio nid yn unig ar y plant sy’n derbyn gofal, ond yr holl blant sy’n cael gofal a chymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol. Fel hyn, gellir gwneud cymariaethau hefyd gyda’r rheini nad ydyn nhw’n cyrraedd y trothwy i fod yn blant sy’n derbyn gofal.

Bydd y prosiect yn defnyddio ymatebion o arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion o ddisgyblion oedran uwchradd ym mhob rhan o Gymru, gan gysylltu’r data addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol hyn a gesglir yn rheolaidd ym Manc Data SAIL. Yr hyn sy’n arbennig o ddifyr am yr ymchwil yw y bydd gennyf fynediad at ddata o dair ton o’r arolwg (os yw’r ymatebwyr wedi cydsynio i gysylltu data), fydd yn caniatáu i mi edrych ar newidiadau ar lefel unigol dros amser yn ogystal â monitro tueddiadau. Bydd hyn yn fy ngalluogi i adeiladu ar y gwaith a wnaed yn flaenorol gan ymchwilwyr yn DECIPHer, er mwyn dod i ddeall sut y gallai’r rheini mewn gofal ac ar gyrion gofal brofi’r gwahanol fathau o ganlyniadau o’u cymharu â’u cyfoedion. Drwy gysylltu â’r amrywiol setiau data llysoedd teulu a gwasanaethau cymdeithasol ym Manc Data SAIL, mae cyfle hefyd i ymchwilio ymhellach i edrych am wahaniaethau ar sail statws cyfreithiol a lleoliad. 

Cwestiynau Ymchwil

  1. Sut gellir gwella ein dealltwriaeth o batrymau cyfranogi mewn ymddygiadau peryglus ymhlith y rheini sy’n derbyn gofal a chymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol drwy gyfuno data arferol a data arolwg? Beth yw cryfderau a chyfyngiadau’r dull hwn?
  2. O ran ffactorau amddiffynnol, oes patrymau gwahanol yn y grwpiau hyn? Pa ffactorau allai fod yn agored i ymyriadau?
  3. Oes risgiau ychwanegol yn bodoli i blant sy’n cael gofal a chymorth, ac yn benodol plant sy’n derbyn gofal, ar ôl cyfrif am statws economaidd-gymdeithasol ac amddifadedd y gymdogaeth?

Drwy gydol yr astudiaeth, caiff cyngor ei geisio gan amrywiaeth eang o bobl ifanc, gan gynnwys rhai â phrofiad byw o wasanaethau gofal cymdeithasol a rhai sy’n gyfarwydd â chynorthwyo ymchwil i wella iechyd y cyhoedd. Byddaf yn gallu manteisio ar arbenigedd cyfunol cydweithwyr CASCADE a DECIPHer yn ystod fy Nghymrodoriaeth.

I mi, mae’n arbennig o bwysig defnyddio data o Gymru wrth edrych ar sut mae gwahanol blant yn cymryd rhan mewn ymddygiadau fel ysmygu, yfed, defnyddio cyffuriau, triwantiaeth, eithrio, bwlio a chael eu bwlio, secstio, iechyd rhywiol, trais ar ddêt ac mewn perthynas, a gamblo oherwydd bydd yn rhoi’r wybodaeth i ni allu datblygu ymyriadau amserol wedi’u targedu’n well, sy’n adlewyrchu ein dyheadau ni yng Nghymru nawr, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ysgrifennwyd gan Dr Helen Hodges