Mae ein hadroddiad blynyddol yn rhoi cyflwyniad gwych i’n gwaith. 

Yn 2020 roedd CASCADE yn falch iawn o dderbyn cyllid seilwaith i ddatblygu ein partneriaeth â’r Canolfannau Treialon Ymchwil a Gwyddor Datblygiadol Dynol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chanolfan Cysylltu Gwybodaeth Ddienw yn Ddiogel Prifysgol Abertawe. Roedd y cyllid yn ein galluogi i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer prosiectau ymchwil, ymgysylltu â’r sector gyda’n hymchwil a chynnwys plant, pobl ifanc a rhieni yn ein gwaith. 

Mae ein blwyddyn gyntaf wedi mynd yn dda iawn – gyda llawer o brosiectau newydd a digwyddiadau a mentrau cyffrous. Gobeithiwn y bydd ein Hadroddiad yn rhoi trosolwg diddorol o rai o’n cyflawniadau allweddol. 

Hoffem ddiolch i Ymchwil Gofal Iechyd Cymru – y gwnaeth ei gefnogaeth hyn i gyd yn bosibl