Mae prosiect Family Voice wedi bod yn brysur yn trefnu gweithdai cydgynhyrchu yn Camden ac yng Ngogledd Cymru.
Delyth yw fy enw i a fi yw’r Ymchwilydd Cymheiriaid yng Ngogledd Cymru, gyda chefnogaeth Y Bont. Rwyf wedi bod yn gwahodd teuluoedd o Ogledd Cymru sydd wedi cael profiad o fynychu Cynhadledd Grŵp Teulu i ymuno â’r prosiect. Mae’r teuluoedd wedi bod yn rhoi adborth ar y Broses Grwpiau Teuluol, gan drafod paratoi, cynnwys, a’r canlyniadau o’u safbwynt nhw. Read More
