Rwy’n hoff iawn o Rowndiau Schwartz. Rwy’n gwybod pan fyddwch chi’n cynnal gwerthusiad gwyddonol o rywbeth, rydych chi i fod i fod yn niwtral yn ofalus, er mwyn osgoi’r awgrym o ragfarn neu y gallech fod wedi rhagdybio’r canlyniad. Ond dim ond dyn meidrol ydw i, ac mae’n rhaid i mi fod yn onest. Hoffais… Read More
Pam nad yw mwy o bobl ifanc â phrofiad o ofal yn mynd i’r brifysgol?
Gall prifysgol fod yn un o’r adegau mwyaf cyffrous ym mywyd pobl ifanc; mae’n gyfle iddynt astudio rhywbeth y mae ganddyn nhw wir ddiddordeb ynddo, cwrdd â phobl newydd, cael profiadau newydd a bod âl lle i gymryd y camau cyntaf hynny fel oedolyn annibynnol yn y byd. Gyda hyn i gyd ar gael, pam… Read More
Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2021: Dysgu ac Edrych i’r Dyfofol
Mae cofrestru ar gyfer cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar 14 Hydref ar agor nawr! Thema’r digwyddiad eleni yw dysgu ac edrych ymlaen ac ar ôl llwyddiant digwyddiad y llynedd, bydd hi’n ddiwrnod cwbl ddigidol unwaith eto. Mae sesiynau gwych wedi’u trefnu ar bynciau pwysig gan gynnwys: Ymchwil iechyd a gofal: dysgu o’r pandemig;… Read More
Adroddiad newydd wedi’i gyhoeddi yn arholi yr effaith Rhestr Wirio
Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon? Archwiliodd ein hastudiaeth effaith ymyrraeth rhestr wirio ar alluoedd gweithwyr cymdeithasol i ragweld (pa mor dda y gallent ragweld tebygolrwydd gwahanol ddigwyddiadau a chanlyniadau) a rhagfarn cadarnhau (i ba raddau yr oedd ymatebwyr yn ceisio gwybodaeth i gadarnhau, yn hytrach herio, eu barn gyfredol) . Gallwch weld copi… Read More
Adolygiad CASCADE yn hysbysu Dispatches ar Channel 4
Heddiw, am 10pm ar Channel 4, bydd adolygiad o ymchwil gan Julie Doughty, Nina Maxwell, a Tom Slater o Brifysgol Caerdydd yn cael ei drafod ar Dispatches ar Channel 4. Bydd y rhaglen yn ystyried system y llysoedd teulu ac yn datgelu sut y gall llysoedd orchymyn i’r heddlu symud plant nad ydyn nhw mewn… Read More
Adroddiadau newydd yn archwilio ac yn adolygu arferion ym maes atal trais ieuenctid
Mae CASCADE yn falch iawn o fod wedi cael eu comisiynu gan Uned Atal Trais Cymru i gynnal dau adolygiad o dystiolaeth: mapio’r ffactorau risg a’r ymyriadau ar gyfer atal trais ymhlith pobl ifanc, a rhoi dulliau cyd-gynhyrchu ar waith mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r adroddiadau hyn yn amlinellu dulliau ac ymyriadau ar sail tystiolaeth ar… Read More
Newid Cynadleddau Gwarchod Plant am Gynadleddau Grŵp Teuluol
Dros y ddau ddegawd diwethaf yn y DU ac mewn mannau eraill, mae pwysigrwydd cynnwys plant, pobl ifanc a rhieni yn y broses o wneud penderfyniadau gwaith cymdeithasol wedi’i gydnabod yn gynyddol. O gael eu galluogi a’u cefnogi i gymryd rhan, gall plant, pobl ifanc a rhieni chwarae rhan hanfodol wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau.… Read More
Croeso i Dr Heather Taussig
Mae Dr Heather Taussig, ymchwilydd o’r Unol Daleithiau ym maes gofal cymdeithasol i blant, wedi ymuno â CASCADE am 4 mis ar gymrodoriaeth Fulbright. Mae Dr Taussig yn Athro yn Ysgol Gwaith Cymdeithasol Graddedigion Prifysgol Denver ac yn athro atodol yng Nghanolfan Kempe ar gyfer Atal a Thrin Cam-drin ac Esgeuluso Plant. Mae Taussig yn bwriadu cynnal ymchwil ar y… Read More
Gwobr erthygl orau i ymchwilydd CASCADE
Mae Dr Martin Elliott, Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil CASCADE wedi ennill gwobr genedlaethol flaenllaw am yr erthygl orauyn y British Journal of Social Work yn 2020. Dyfernir Gwobr Kay McDougall Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) am ehangder ysgolheictod, soffistigedigrwydd theori, trylwyredd ymchwil, perthnasedd i ymarfer ac apêl ryngwladol. Mae papur Martin yn edrych ar anghydraddoldebau… Read More
Cyhoeddiad Llyfr Esgeuluso Plant
Mae Dr Alyson Rees ynghyd ag academydd o’r Ysgol Gwaith Cymdeithasol ac academydd o Brifysgol Bryste, Dr Victoria Sharley wedi’u comisiynu gan Coram BAAF i ysgrifennu llyfr ar esgeuluso plant ar gyfer ymarferwyr gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol gan gynnwys gofalwyr maeth. Bydd y llyfr yn helpu i lywio ymarfer ym maes gofal cymdeithasol. Disgwylir y caiff y… Read More