Er bod yr haf yn agosáu, mae atgofion y Pasg yn dal yn fyw yn fy meddwl. Ym mis Ebrill, es i ECSWR (Y Gynhadledd Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Gwaith Cymdeithasol) yn 2023 ym Milan gyda grŵp o ymchwilwyr o CASCADE, gan gynnwys DonaldJonathanAlysonCliveSophieMelissa, a finnau. Fe wnaethom ni i gyd gymryd rhan yn y gynhadledd. Fe wnaeth Donald a Jonathan gadeirio rhai o’r sesiynau, ac fe gyflwynodd Alyson, Clive, a Melissa gyflwyniadau ar bynciau amrywiol:

Cydweithiodd Alyson gyda chydweithiwr o Norwy, Alf Roger Djupvik ar yr ymchwil – ‘Defnyddio canllawiau mewn gwaith cymdeithasol: cymharu Cymru a Norwy’.  Ymchwil Clive – ‘Deall y ffordd y caiff polisi gofal cymdeithasol plant yng Nghymru ei roi ar waith’ Astudiaeth o’r canllawiau newydd ynghylch camfanteisio’n rhywiol ar blant. Ymchwil Melissa – ‘Canfyddiadau dros dro gwerthusiad peilot ar y Llys Cyffuriau ac Alcohol Teuluol yng Nghymru’. Yn ogystal, cyflwynodd Jonathan, Sophie, a minnau ar brosiect Family VOICE .

Roedd mynd i’r gynhadledd dri diwrnod hon yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi. Hwn oedd y tro cyntaf i mi gyflwyno mewn cynhadledd ymchwil Ewropeaidd y tu allan i’r DU, ac roedd hi’n fraint cael bod yno. Pan laniodd ein hawyren yn yr Eidal, roeddwn i’n teimlo’n gyffrous iawn ond yn emosiynol hefyd oherwydd roedd yr Eidal yn gartref i mi flynyddoedd lawer yn ôl. Mae gen i rai nodiadau Lira yn fy nroriau o hyd! Er bod llawer wedi newid, mae’r hanes, yr adeiladau a’r eglwysi yn dal i’m rhyfeddu. Ac roedd y bwyd yn anhygoel! 

Roedd treulio amser gyda fy nghydweithwyr o CASCADE wedi gwneud y daith hyd yn oed yn fwy arbennig. Gan nad ydw i wedi fy lleoli yng Nghaerdydd, dydw i ddim yn cael cwrdd â nhw’n bersonol yn aml iawn. Rhoddodd y daith hon gyfle i mi ddod i’w hadnabod yn well fel unigolion, nid dim ond cydweithwyr rwy’n cyfathrebu â nhw trwy Teams. Fe wnes i fwynhau ein sgyrsiau, ac roedd eu gwybodaeth, eu harbenigedd mewn ymchwil ac angerdd am eu gwaith wedi creu argraff arnaf. Gwnaeth imi fod yn falch o weithio ochr yn ochr â nhw a bod yn rhan o CASCADE.

Yn ogystal, fe wnes i fwynhau rhoi’r cyflwyniad ac ro’n i’n ddiolchgar am gefnogaeth fy nghydweithwyr yn CASCADE a chydweithwyr o brifysgolion eraill. Cefais gyfle i wneud ffrindiau newydd yn y gymuned a chyfnewid gwybodaeth a diddordebau. Fe es i i sesiynau eraill i ddysgu am yr hyn y mae eraill yn ei wneud, ac roeddwn i mor gyffrous fe wnes i gysylltu ag athro o wlad arall oherwydd bod ei waith wedi fy ysbrydoli.

Yn gyffredinol, roedd y daith hon yn ymgorffori thema a slogan cynhadledd ECSWR eleni – ymchwil ar waith cymdeithasol trwy a thuag at berthnasoedd dynol. Rwy’n ddiolchgar am y profiad a’r atgofion a fydd yn aros gyda mi am amser hir.

Kar Man