Mae grŵp cynghori ymchwil pobl ifanc â phrofiad o ofal CASCADE, Lleisiau CASCADE, sydd wedi ennill gwobrau ac yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Voices From Care Cymru, wedi bod yn gweithio’n galed yn rhithwir yn ystod y pandemig. Tra bod pawb yn dod o hyd i’r ffyrdd gorau o ymdopi yn ystod pandemig, mae ein pobl ifanc ymroddedig wedi parhau i gymryd rhan yn ein grŵp ac ni allem fod yn fwy diolchgar na balch. 

CASCADE Voices logo
Logo Lleisiau Cascade

Wrth i ni edrych ymlaen at ail-ddechrau’r grŵp wyneb yn wyneb eto’r hydref hwn, nawr yw’r amser i fyfyrio ar eu holl waith caled a’u heffaith dros y flwyddyn ddiwethaf.  

Dyma rai o’r uchafbwyntiau allweddol:

Ymchwil Pobl sy’n Gadael Gofal COVID-19. 

Roedd Lleisiau CASCADE yn rhan o’r ysbrydoliaeth ar gyfer yr ymchwil hon. Yn ein cyfarfodydd cyntaf yn ystod y pandemig, rhannodd y grŵp yr anawsterau yr oeddent yn eu hwynebu, yn benodol yr heriau fel pobl sy’n gadael gofal. Gyda chyllid ar y cyd gan Voices From Care Cymru a CASCADE cynhaliwyd yr astudiaeth hon yn ystod haf 2020. Aeth y grŵp ymlaen i gynnig cyd-destun a dilysu canfyddiadau’r astudiaeth. Gwnaethant hefyd gyd-ddatblygu gweminar ExChange, sy’n cynnwys straeon a meddyliau gan y grŵp a gasglwyd drwy glipiau sain. 

Cyfleoedd Ymchwilwyr Cymheiriaid 

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gallu cynnig cyfle i ddau aelod o’n grŵp Lleisiau CASCADE fod yn ymchwilwyr cymheiriaid. Y cyntaf ar gyfer prosiect sy’n cael ei arwain gan DECIPHer a’r Rhwydwaith Maethu, a ariennir gan y rhwydwaith TRIUMPH. Mae’r ail newydd gael ei recriwtio i weithio ar brosiect ‘Hunluniau, Snapchat a Chadw’n Ddiogel: Sut mae plant sy’n derbyn gofal yn ymgysylltu ar-lein?’ Dr Cindy Corliss, a ariennir gan HCRW. 

Llun gyda bwrdd du guda cymylau meddwl lliwgar gyda logo o camera, siopa,ffon symbol, ymchwil a cerddoriaeth

Adborth ac ymgynghoriad ar geisiadau CASCADE.

Mae’r grŵp wedi cynnig cyngor, syniadau ac adborth ar ddatblygu ystod eang o geisiadau yn CASCADE ac yn ehangach. Un prosiect nodedig sydd wedi bod yn llwyddiannus ac sy’n dechrau’r mis hwn yw astudiaeth Dr Phil Smith i ‘Gadael yr uned cyfeirio disgyblion: Edrych ar bontio a chyrchfannau ôl-16 pobl ifanc â phrofiad o ofal ledled Cymru’. 

Mae sesiynau eraill wedi cynnwys gweithio gyda Barnardos, cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r fideo ‘Keeping Safe‘ ac, yn bwysig, treialu dulliau ymchwil rhithwir. Wrth i ni i gyd addasu i weithio ar-lein, roedd yn wych gweld ein grŵp yn rhoi adborth ar ddulliau esblygol a newydd. Gwnaeth y grŵp bob amser gynnig mewnwelediad a syniadau gwerthfawr i wella prosiectau. 

Rhannodd y bobl ifanc beth maen nhw’n ei feddwl am y grŵp: 

“Dwi’n hoffi dysgu am ymchwil ac am wahanol bethau sy’n digwydd ledled Cymru.”

“Dwi’n hoffi cwrdd â phobl newydd ac mae wedi fy helpu i fagu hyder”

“Dwi’n ei fwynhau ac yn hoffi sut rydym yn cael gweld beth sy’n digwydd gyda’r ymchwil a’r wybodaeth a rown.”

“Dwi’n credu mai’r peth gorau i fi yw pan dwi wedi cael effaith ac mae’r ymchwilwyr wedi dod yn ôl a defnyddio beth ddwedais i”.


“Mae Lleisiau CASCADE yn rhan bwysig o’n gwaith yn Voices From Care Cymru lle mae aelodau’n cael cyfle i gyfrannu’n ystyrlon a dylanwadu ar brosiectau ymchwil, yn ogystal â dysgu sgiliau newydd. Gwnaeth y pandemig hyn yn fwy heriol, ond yn bwysicach fyth roedden ni’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc gymryd rhan.” 

Adborth gan Aiden Richards yn Voices From Care Cymru

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r holl bobl ifanc sydd wedi ymwneud â Lleisiau CASCADE, yn enwedig yn ystod y pandemig. Mae eu hymrwymiad a’u hymroddiad wedi bod yn ysbrydoledig.

I gael rhagor o wybodaeth am Leisiau CASCADE neu unrhyw ran o’n gwaith Ymgysylltu neu Gynhwysiant, cysylltwch â CASCADE.