TRIUMPH Fest

Dyluniwyd ‘TRIUMPH Fest’ yng Nghaeredin fel cyfle i ddod â phobl ifanc, llunwyr polisi ac ymchwilwyr ynghyd i rannu dysgu am iechyd meddwl pobl ifanc. Roedd yn ddigwyddiad deuddydd a ddyluniwyd ac a arweiniwyd gan Grŵp Cynghori Ieuenctid TRIUMPH. Roedd yn cynnwys cyflwyniadau a stondinau a oedd yn tynnu sylw at y gwaith mae pobl… Read More

Cinio Nadolig Caerdydd

Mae hi’n ddeufis tan y Nadolig ac mae rhai gwirfoddolwyr yng Nghaerdydd yn gwneud cynlluniau i atal unigrwydd ymysg rhai oedolion ifanc fydd ddim yn treulio Dydd Nadolig gyda’u teuluoedd. Mae apêl yn cael ei lansio heddiw (24 Hydref) ar gyfer Cinio Nadolig Caerdydd. Bydd Cinio Nadolig Caerdydd yn cynnig bwyd, anrhegion, gweithgareddau a  chwmni i bobl ifanc sydd â phrofiad gofal yng Nghaerdydd a’r cyffiniau ar ddydd Nadolig 2022.  Read More

Cyrraedd am y sêr: Modelau rôl â phrofiad o ofal

Fel rhan o Grŵp Rhieni a rhwydwaith CASCADE rydym wedi cynnig y cyfle i aelodau gyfrannu at flogiau os hoffent wneud hynny. Bydd y rhain yn straeon, negeseuon neu flaenoriaethau ymchwil o’u safbwynt nhw. Gobeithiwn y bydd hyn yn digwydd yn rheolaidd ym mlog CASCADE ac y bydd yn ffordd arall i ni roi llais i’r rhai sydd â phrofiad byw o ofal cymdeithasol plant. Read More

Y Daith hyd yn hyn yn gyd-ymchwilydd – cymryd rhan

Rwy’n un o’r aelodau a sefydlodd y Bwrdd Cynghori Teuluoedd (grŵp FAB), yn Camden yn 2014 a deuthum yn gydlynydd y grŵp FAB yn ddiweddar, yn aelod lleyg o Bartneriaeth Diogelu Plant Camden, ac yn Eiriolwr hyfforddedig dros Rieni ar gyfer Cynadleddau Amddiffyn Plant. Rwyf hefyd yn Ymgyrchydd dros Berthnasoedd ac yn hyrwyddo Cynadleddau Grwpiau Teuluol, Eiriolaeth dros Rieni, Cyfranogiad Rhieni, ac yn defnyddio fy mhrofiad trwy berthnasoedd a gweithio ar y cyd ag eraill i gyflawni newid cymdeithasol. Read More

Lansio CLASS Cymru

Ar 26 Hydref, yn rhan o Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal 2022, bydd rhwydwaith CLASS Cymru a CASCADE yn lansio gwefan newydd o’r enw CLASS Cymru. Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifanc a fu o dan ofal a’r rhai sy’n eu helpu i bontio i addysg uwch. Mae CLASS Cymru (Y… Read More

Gweithdai Cydgynhyrchu Family VOICE

Mae prosiect Family Voice wedi bod yn brysur yn trefnu gweithdai cydgynhyrchu yn Camden ac yng Ngogledd Cymru.

Delyth yw fy enw i a fi yw’r Ymchwilydd Cymheiriaid yng Ngogledd Cymru, gyda chefnogaeth Y Bont. Rwyf wedi bod yn gwahodd teuluoedd o Ogledd Cymru sydd wedi cael profiad o fynychu Cynhadledd Grŵp Teulu i ymuno â’r prosiect. Mae’r teuluoedd wedi bod yn rhoi adborth ar y Broses Grwpiau Teuluol, gan drafod paratoi, cynnwys, a’r canlyniadau o’u safbwynt nhw. Read More

Camerâu’n Troi … Galluogi Cyfranogwyr Cynnwys y Cyhoedd yn Ddigidol

Fis diwethaf, cafodd ein tîm anhygoel o Rieni Cynnwys y Cyhoedd, yn rhan o Grŵp Cynghori ar Ymchwil i Rieni CASCADE,y cyfle i ddatblygu sgiliau digidol a allai gael eu defnyddio i gefnogi eu hymwneud â’r cylch ymchwil cyfan yn CASCADE. Gobeithio y gallai’r sgiliau hyn, yn y pen draw, alluogi’r grŵp i gyfrannu, gan gynnwys rhannu eu hymchwil a’u profiadau eu hunain. Gobeithio hefyd y bydd y sgiliau hyn yn eu helpu i ddatblygu eu diddordebau, eu gyrfaoedd a’u hyder. Read More