Fis diwethaf, cafodd ein tîm anhygoel o Rieni Cynnwys y Cyhoedd, yn rhan o Grŵp Cynghori ar Ymchwil i Rieni CASCADE,y cyfle i ddatblygu sgiliau digidol a allai gael eu defnyddio i gefnogi eu hymwneud â’r cylch ymchwil cyfan yn CASCADE. Gobeithio y gallai’r sgiliau hyn, yn y pen draw, alluogi’r grŵp i gyfrannu, gan gynnwys rhannu eu hymchwil a’u profiadau eu hunain. Gobeithio hefyd y bydd y sgiliau hyn yn eu helpu i ddatblygu eu diddordebau, eu gyrfaoedd a’u hyder.

Gwnaethom gysylltu â Swansea Music Arts Digital i ofyn am gymorth i gynnal tair sesiwn hyfforddiant a chymorth ar gyfer y grŵp.  Elusen ydyw sy’n datblygu mannau diogel a chynhwysol i bobl allu cael gwasanaeth eirioli, addysg, cymorth cyflogadwyedd a hyfforddiant, ymwneud â’r celfyddydau creadigol, bod yn rhan o’r gymdeithas ddigidol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymgyrchu. Gyma chymorth Dave Berry o Swansea Music Arts Digital, aeth ein tîm ati i ddysgu sut i sgriptio, golygu, cyfweld, ffilmio a chynhyrchu fideo byr sy’n tynnu sylw at ei rôl yn ein hymchwil. Mae’r ymateb wedi bod yn wych, a gellir gwylio’r ffilm yma (Parents Research Advisory Group | CASCADE Wales)

Dyma oedd un o’n sesiynau wyneb-yn-wyneb cyntaf gyda’r rhieni yn ystod pandemig COVID-19. Roedd hefyd yn gyfle iddynt ystyried eu profiadau a’r rôl y mae’r grŵp ymchwil wedi’i chwarae o ran eu galluogi i ddatblygu a helpu i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio’n well i rieni yn y dyfodol.

“Rwy’n hoff iawn o’r ffaith bod y grŵp hwn yn un organig. Cafodd ei ddechrau’n araf, ac mae wedi rhoi sylw i’r hyn sydd wir ei angen. Yma, rwy’n teimlo ein bod yn meddwl mewn ffordd wreiddiol. Mae pethau fel gwneud y fideo hwn, hyd yn oed, yn datblygu sgiliau y gallwn eu defnyddio yn rhywle arall, mewn grŵp arall.”

Aelod o Grŵp Rhieni CASCADE

“Profiad gwych oedd sefydlu’r grŵp hwn sy’n cynnwys pobl â phrofiadau ehangach o’n gwaith gyda CASCADE. Mae’r fideo hwn wedi ein galluogi i ystyried popeth, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at wneud y gwaith sydd ar y gweill gennym yn y dyfodol.”

Rachael Vaughan, Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd CASCADE

Fel bob amser, diolch yn fawr i’n Grŵp Cynghori ar Ymchwil i Rieni, a gobeithio y bydd yn cadw tocynnau ar ein cyfer i’r première o’i ffilm fawr nesaf!