Mae CASCADE yn falch iawn o gyhoeddi ei bod wedi sicrhau tair cymrodoriaeth ymchwil gyffrous. Gadael uned cyfeirio disgyblion: Edrych ar gyfnodau pontio a chyrchfannau ôl-16 pobl ifanc â phrofiad o ofal ledled Cymru Phil Smith Sut y gallwn ni wella profiadau a chanlyniadau plant awtistig mewn gofal? Astudiaeth dulliau cymysg o anghenion, gwasanaethau ac… Read More
Gwella dealltwriaeth o ymddwyn mewn ffordd beryglus ymhlith plant sy’n derbyn gofal cymdeithasol
Caiff ei gydnabod yn eang fod canlyniadau addysgol ac iechyd plant sy’n derbyn gofal yn waeth na’r boblogaeth yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae niferoedd isel a’r duedd i drin plant sy’n derbyn gofal fel grŵp homogenaidd yn broblematig, nid lleiaf am ei fod yn anwybyddu gwahaniaethau ar sail anghenion ac amgylchiadau unigol. Er mwyn deall… Read More
Hoffech chi wybod mwy am yr hyn y mae partneriaeth CASCADE yn ei wneud?
Mae ein hadroddiad blynyddol yn rhoi cyflwyniad gwych i’n gwaith. Yn 2020 roedd CASCADE yn falch iawn o dderbyn cyllid seilwaith i ddatblygu ein partneriaeth â’r Canolfannau Treialon Ymchwil a Gwyddor Datblygiadol Dynol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chanolfan Cysylltu Gwybodaeth Ddienw yn Ddiogel Prifysgol Abertawe. Roedd y cyllid yn ein galluogi i ddatblygu syniadau newydd… Read More
Ymchwil mewa i phrofiadau a chanlyniadau o plant awtistig mewn gofal maeth neu ofal gan berthynas wedi’i lawnsio
Ychydig iawn o ymchwil sydd wedi’i chynnal ar brofiadau a chanlyniadau plant awtistig mewn gofal maeth neu ofal gan berthynas. Mae hwn yn faes rwyf i’n angerddol drosto ers tro ac mae’n gyffrous cael dechrau prosiect newydd, diolch i gymrodoriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru dros dair blynedd. O’r ymchwil sy’n bodoli a sgyrsiau gyda… Read More
Gadael yr uned cyfeirio disgyblion: Edrych ar bontio a chyrchfannau ôl-16 pobl ifanc â phrofiad o ofal ledled Cymru
Fel gweithiwr ieuenctid a chymunedol cymwysedig, rwyf i wedi bod â diddordeb erioed mewn gweithio gyda phobl ifanc sy’n cael trafferth gydag addysg ffurfiol, ac sydd ar y cyrion neu heb gynrychiolaeth ddigonol mewn ymchwil. Ar gyfartaledd, mae’n hysbys yn eang fod addysg yn anodd i lawer o blant mewn gofal. Yr hyn nad yw’n… Read More
Adroddiad newydd wedi’i gyhoeddi ar Schwartz Rounds yn cael ei dreilau yn gofal cymdeithasol
Mae’n bleser gan Cascade gyhoeddi adroddiad y mae Dr David Wilkins wedi bod yn gweithio arno ers 24 mis. Cyhoeddwyd Treial Rheoledig ar Hap o Rowndiau Schwartz gan ganolfan Gofal Cymdeithasol Plant sy’n Gweithio.Archwiliwyd i mewn i hyn drwy weithio gydag un ar ddeg o awdurdodau lleol, rydym ni wedi neilltuo dros 2000 o aelodau… Read More
Blog diwedd prosiect Rowndiau Schwartz
Rwy’n hoff iawn o Rowndiau Schwartz. Rwy’n gwybod pan fyddwch chi’n cynnal gwerthusiad gwyddonol o rywbeth, rydych chi i fod i fod yn niwtral yn ofalus, er mwyn osgoi’r awgrym o ragfarn neu y gallech fod wedi rhagdybio’r canlyniad. Ond dim ond dyn meidrol ydw i, ac mae’n rhaid i mi fod yn onest. Hoffais… Read More
Pam nad yw mwy o bobl ifanc â phrofiad o ofal yn mynd i’r brifysgol?
Gall prifysgol fod yn un o’r adegau mwyaf cyffrous ym mywyd pobl ifanc; mae’n gyfle iddynt astudio rhywbeth y mae ganddyn nhw wir ddiddordeb ynddo, cwrdd â phobl newydd, cael profiadau newydd a bod âl lle i gymryd y camau cyntaf hynny fel oedolyn annibynnol yn y byd. Gyda hyn i gyd ar gael, pam… Read More
Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2021: Dysgu ac Edrych i’r Dyfofol
Mae cofrestru ar gyfer cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar 14 Hydref ar agor nawr! Thema’r digwyddiad eleni yw dysgu ac edrych ymlaen ac ar ôl llwyddiant digwyddiad y llynedd, bydd hi’n ddiwrnod cwbl ddigidol unwaith eto. Mae sesiynau gwych wedi’u trefnu ar bynciau pwysig gan gynnwys: Ymchwil iechyd a gofal: dysgu o’r pandemig;… Read More
Adroddiad newydd wedi’i gyhoeddi yn arholi yr effaith Rhestr Wirio
Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon? Archwiliodd ein hastudiaeth effaith ymyrraeth rhestr wirio ar alluoedd gweithwyr cymdeithasol i ragweld (pa mor dda y gallent ragweld tebygolrwydd gwahanol ddigwyddiadau a chanlyniadau) a rhagfarn cadarnhau (i ba raddau yr oedd ymatebwyr yn ceisio gwybodaeth i gadarnhau, yn hytrach herio, eu barn gyfredol) . Gallwch weld copi… Read More