Cinio Nadolig Caerdydd

Mae hi’n ddeufis tan y Nadolig ac mae rhai gwirfoddolwyr yng Nghaerdydd yn gwneud cynlluniau i atal unigrwydd ymysg rhai oedolion ifanc fydd ddim yn treulio Dydd Nadolig gyda’u teuluoedd. Mae apêl yn cael ei lansio heddiw (24 Hydref) ar gyfer Cinio Nadolig Caerdydd. Bydd Cinio Nadolig Caerdydd yn cynnig bwyd, anrhegion, gweithgareddau a  chwmni i bobl ifanc sydd â phrofiad gofal yng Nghaerdydd a’r cyffiniau ar ddydd Nadolig 2022.  Read More

Cyhoeddi’r drydedd Gynhadledd flynyddol ar-lein ynghylch Dadansoddi Sgwrs a Gwaith Cymdeithasol

Mae Cascade yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn cynnal y drydedd Gynhadledd flynyddol ar-lein ynghylch Dadansoddi Sgwrs a Gwaith Cymdeithasol, ar 16 Mawrth 2023. Cynhelir gwaith cymdeithasol yn aml iawn trwy sgyrsiau, rhwng grwpiau o weithwyr cymdeithasol, rhwng gweithwyr cymdeithasol a phobl broffesiynol eraill ac wrth gwrs rhwng gweithwyr cymdeithasol a phobl sy’n… Read More

CASCADE yn lansio adroddiad Reframing Childhood yr Academi Brydeinig

Ar 6 Hydref bu’r Athro Sally Holland yn cadeirio ac yn cynnal achlysur i lansio adroddiad terfynol Rhaglen Polisi Plentyndod yr Academi Brydeinig yn adeilad Spark|Sbarc. Roedd y rhaglen wedi canfod gwahaniaethau sylweddol ar draws gwledydd y DU o ran sut mae llywodraethau’n deall plentyndod ac yn datblygu polisïau. Mae’r ffyrdd o roi hawliau plant… Read More

Lansio CLASS Cymru

Ar 26 Hydref, yn rhan o Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal 2022, bydd rhwydwaith CLASS Cymru a CASCADE yn lansio gwefan newydd o’r enw CLASS Cymru. Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifanc a fu o dan ofal a’r rhai sy’n eu helpu i bontio i addysg uwch. Mae CLASS Cymru (Y… Read More

Ysgoloriaethau doethurol wedi’u hariannu’n llawn

Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru (DTP Cymru) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn gwahodd ceisiadau am astudiaethau PhD gyda’r posibilrwydd o ennill un o   Ysgoloriaethau DTP yr ESRC sydd wedi’i hariannu’n llawn, i ddechrau ym mis Hydref 2022 ym maes gwaith cymdeithasol a… Read More

Adroddiad Newydd – Galw am gyflwyno a datblygu gwasanaeth cymorth i deuluoedd cyn-filwyr ledled Cymru

Mae ein hadroddiad newydd yn gwerthuso Gwasanaeth Dulliau Adferol i Gyn-filwyr a’u Teuluoedd (RAVFS). Mae’r gwasanaeth hwn, a ddarperir gan TGP Cymru, yn ddull newydd sy’n hwyluso ymyriadau teulu cyfan i gyn-filwyr a’u teuluoedd. Mae gwerthusiad cynnar wedi dangos y gall RAVFS helpu i wella’r berthynas rhwng cyn-filwyr sy’n byw gydag anhwylder iechyd meddwl sy’n… Read More