ECSWR 2023 – Taith Milan

Er bod yr haf yn agosáu, mae atgofion y Pasg yn dal yn fyw yn fy meddwl. Ym mis Ebrill, es i ECSWR (Y Gynhadledd Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Gwaith Cymdeithasol) yn 2023 ym Milan gyda grŵp o ymchwilwyr o CASCADE, gan gynnwys Donald, Jonathan, Alyson, Clive, Sophie, Melissa, a finnau. Fe wnaethom ni i gyd gymryd rhan yn y gynhadledd. Fe wnaeth Donald… Read More

Gwneud synnwyr o’r cynydd yn nifer y gofalwyr ifanc – a yw’n destun pryder neu ai mater o fod wedi dod o hyd i’r boblogaeth guddiedig ydyw?

Wrth gynnal ymchwil ym maes gofalwyr ifanc, mae cael darlun clir o’r niferoedd o ofalwyr ifanc wedi peri trafferth ers degawdau.  Yn grŵp lleiafrifol, nid yw’r setiau data mawr sydd eu hangen i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy wedi bod ar gael bob amser, ac nid yw dulliau amgen wedi llwyddo i oresgyn problemau’n ymwneud â stigma… Read More

Y camau nesaf ar gyfer astudiaeth Bywydau Gofalu o sbectrwm y gofalwyr ifanc

Cymrodoriaeth blwyddyn i ledaenu a chynyddu effeithiau astudiaeth PhD, Caring Lives, a ymchwiliodd i sut mae effeithiau gofalu yn amrywio i blant gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau gofalu a theuluol. Trosolwg Astudiaeth PhD o sbectrwm y gofalwyr ifanc oedd Caring Lives, gan gynnwys gofalwyr ifanc â chyfrifoldebau sylweddol, ond hefyd y rhai â llai o… Read More

Gwerthusiad dulliau cymysg o eiriolaeth rhieni yng Nghymru

Eiriolaeth rhieni yng Nghymru: Gwerthusiad Dulliau Cymysg o’i Effeithiolrwydd wrth Gefnogi Rhieni Ar hyn o bryd Cymru sydd â’r gyfran uchaf o blant mewn gofal ymhlith gwledydd y DU, ac mae’n flaenoriaeth polisi gan Lywodraeth Cymru i ostwng nifer y plant mewn gofal. Mae’r potensial ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth rhieni (PA) i helpu i gyflawni’r… Read More

Gwneud synnwyr o dreial SWIS: Y goblygiadau i Gymru

Bydd y prosiect hwn yn cyflwyno canfyddiadau Treial Gweithwyr Cymdeithasol mewn Ysgolion (SWIS), i randdeiliaid yng Nghymru gyda’r bwriad o ddatblygu SWIS i’w weithredu yng Nghymru. Arolwg Mae’r treial Gweithwyr Cymdeithasol mewn Ysgolion (SWIS) yn profi effeithiolrwydd cael gweithwyr cymdeithasol mewn 150 o ysgolion ar draws 21 o awdurdodau lleol yn Lloegr. Ymhlith y nodau… Read More

Gwerthusiad o Pobl sy’n Cynnig Cymorth i Rieni (POPS)

Arolwg Pobl sy’n Cynnig Cymorth i Rieni (POPS) Mae’r prosiect hwn yn werthusiad o brosiect mentora cymheiriaid, sy’n cefnogi rhieni ag anawsterau cyffuriau ac alcohol, sy’n defnyddio gwasanaethau gwaith cymdeithasol. Bydd y gwerthusiad yn dechrau ym mis Hydref 2022. Mae cymeradwyaeth foesegol wedi’i rhoi. Ariennir gan Wasanaethau Cymdeithasol Gogledd Cymru Gweithgareddau/Dulliau Bydd y prosiect yn… Read More

Gwerthuso cyfres Maethu Lles

Gwerthusiad o gyfres o ddosbarthiadau meistr amlddisgyblaethol i weithwyr proffesiynol yn y tîm yng nghyd-destun y plentyn. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn cynnwys datblygu rôl yr arloeswr gofal maeth.  Arolwg Mae’r prosiect bellach wedi cyrraedd hanner ffordd ac rydyn ni wedi cwblhau’r adroddiad interim. Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol, yn enwedig gan fod yr… Read More

Family VOICE: Cynadledda grŵp teuluol i blant a theuluoedd

Family group conferencing for children and families: Evaluation of implementation, context and effectiveness Arolwg Cynhadledd Grŵp Teuluol (CGT) yw cyfarfod lle mae’r teulu ehangach yn trafod plant sydd angen eu cefnogi a’u diogelu ac yn penderfynu ar gynllun ar gyfer gofalu amdanyn nhw.   Nod astudiaeth Family VOICE yw gwella dealltwriaeth o ansawdd ac effeithiolrwydd cynadleddau… Read More